Picture of Forge Fach
 
   

 

AMDANOM NI

Rt. Hon. Rhodri Morgan AMAgorwyd Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge Fach yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, ar ddydd Iau, 22 Mehefin 2006.

Mae'r ganolfan yn gyfleuster £1.8m o'r radd flaenaf sy'n eiddo i Ymddiriedolaeth Ddatblygu Cwmni Clydach ac yn cael ei rheoli ganddi.

Derbyniodd y prosiect bri hwn gyllid cymhorthdal o bron £1.2m gan raglen Amcan 1 Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r prif ffynonellau nawdd eraill yn cynnwys £400,000 o'r Gronfa Adfywio Leol (LRF) drwy Ddinas a Sir Abertawe, a £95,000 o Gyngor Cymuned Clydach.

Forge FachYn ogystal, darparwyd £74,000 gan Gyngor Chwaraeon Cymru ar gyfer Ardal Gemau Aml-ddefnydd allanol. Fe'i hagorwyd gan Mrs Edwina Hart AC er cof am Mr Danny Rees, preswyliwr o Glydach a oedd yn enwog yn y pentref am ei waith yn y pwll nofio awyr agored a fu ar y safle gynt.

Mae'r cyfleusterau yn y Ganolfan yn cynnwys Caffi a Meithrinfa Gofal Dydd lawn, ystafell Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, neuadd amlbwrpas, sy'n cynnwys system seddu wedi'i phweru gwerth £35,000 a ariannwyd gan DE a T, Ystafell Byw'n Iach, cyfleusterau Hyfforddiant a Chynadleddau, yn ogystal â nifer o swyddfeydd sydd ar gael i'w llogi.

Forge FachAr hyn o bryd mae Forge Fach yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer pob oedran o Ddosbarth Dawns Plant Bach i Gyrsiau Cwnsela.

Mae ystod eang o gyrsiau addysg oedolion ar gael hefyd. Am wybodaeth bellach am y rhain a holl wasanaethau eraill Forge Fach ewch i'r dudalen briodol.

 

 

© Hawlfraint Forge Fach