Picture of Forge Fach
 
   

 

ADDYSG OEDOLION

The ideal venue for continuing Adult EducationP'un ai a'ch bod yn dymuno gwella'ch sgiliau neu'ch gwybodaeth neu efallai ddysgu rhywbeth newydd sbon, beth am gofrestru i wneud un o'r nifer i gyrsiau addysg oedolion a gynhelir yn Forge Fach.

Mewn partneriaeth â Dysgu Gydol Oes Abertawe, mae Forge Fach yn lleoliad delfrydol ar gyfer Addysg Barhaus i Oedolion.

ICT SuiteMae gan y Ganolfan Ystafell TGCh hynod fodern gyda'r CPau diweddaraf ynghyd â chyswllt Band Eang hynod o gyflym. Dyma ble'r cynhelir ein holl gyrsiau TG, o gyrsiau ar gyfer dechreuwyr i'r rhai mwy profiadol ym maes technoleg. Cynigir hefyd gyrsiau Ffotograffiaeth Ddigidol, Hanes Lleol a Theulu.

Clydach FallsBeth am wella eich Cymraeg, eich Ffrangeg neu'ch Sbaeneg? Mae'r cyrsiau iaith yma wastad yn boblogaidd ac fe'u cynhelir yn ein hystafell hyfforddiant sydd â golygfa hyfryd o Raeadrau Clydach.

I'r rhai mwy creadigol cynigwn beintio olew ac acrylig ynghyd â chrefftau sy'n gofyn am ddwylo medrus megis creu gemwaith.

Ffoniwch y Ganolfan ar 01792 845566 am wybodaeth bellach neu e-bostiwch; enquiries@forgefach.org.uk

 

© Hawlfraint Forge Fach