CYNADLEDDAU
Mae
Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge Fach yng Nghlydach,
sydd wedi cael ei gwobrwyo, yn fan cyfarfod delfrydol
ar gyfer eich anghenion hyfforddi, seminarau a chynadleddau
bach i ganolig, am bris cystadleuol dros ben.
Saif yng nghalon Clydach mewn parcdir deniadol ger
Afon Clydach a'r rhaeadrau, a darpara'r ganolfan flaengar
hon amrywiaeth o adnoddau i sicrhau digwyddiad llwyddiannus,
boed yn sesiwn hyfforddiant un dydd, neu'n gynhadledd
lawn ag ystafelloedd ymneilltuo. Gellir addasu pecyn
ystafell i ddiwallu'ch anghenion penodol chi.
Mae gan bob ystafell, gan gynnwys y neuadd, allfeydd
data a llais. Mae'r neuadd fawr wedi'i chyflenwi â
system dolen sain i gynorthwyo pobl sy'n drwm eu clyw.
Os oes angen arlwyo ar gyfer eich digwyddiad, gall ein
caffi ddarparu amrywiaeth o fwffes twym ac oer.
Mae'n hawdd iawn cyrraedd
Forge Fach, sydd wedi'i lleoli ychydig filltiroedd yn
unig i'r gogledd o gyffordd 45 yr M4.
Mae ein staff bob amser ar gael i drafod eich anghenion.
Rhowch alwad i ni neu gallwch ofyn am gopi o'n Pecyn
Cynadleddau.
Mae nifer o ystafelloedd ar gael a gellir eu teilwra
i ddiwallu eich anghenion unigol chi.
Gall
y neuadd fawr amlbwrpas, gyda'i heisteddle renciog ôl-dynadwy,
ddal 150 o bobl, sy'n berffaith ar gyfer cyfarfodydd
mwy, cynadleddau, cyflwyniadau, seminarau, darlithoedd
etc.
Gall ein hystafell hyfforddiant ddal hyd at 25 o bobl,
a'r ystafell gyfarfod, ar y llawr cyntaf, ddal 12 o
bobl yn gyfforddus a thiwtoriaid yn ychwanegol i hynny,
sy'n berffaith ar gyfer grwpiau a dosbarthiadau llai.
Gall yr ystafell gyfarfod llawr gwaelod ddal hyd at
35 o bobl, neu gellir ei rhannu'n ddwy uned lai, sy'n
berffaith fel ystafelloedd ymneilltuo neu weithdai.
MANYLION, MEINTIAU A PHRISIAU
YSTAFELLOEDD
|
YSTAFELL
|
MAINT
|
PRIS
|
|
Y Neuadd Fawr
|
9.5m x 16.7m
Seddau 150
|
£150 y dydd
|
|
Ystafell Hyfforddiant
|
9.6m x 4.8m
Seddau 25
|
£70 y dydd
|
|
Ystafell Gyfarfod
|
4.8m x 3.4m
Seddau 12 + tutors
|
£45 y dydd
|
|
Ystafell Byw'n Iach
|
11.6m x 4.6m
Seddau 25-30
|
£55 y dydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cliciwch ar y lluniau
i weld fersiynau mwy
|
OFFER AR GAEL I'W LOGI
|
OFFER
|
PRIS
|
|
|
Siart troi a phennau
|
£5 |
|
|
Uwchdaflunydd
|
£10 |
|
|
Taflunydd Powerpoint
|
£50 |
|
|
System PA (Y neuadd fawr yn unig)
|
£10 yr awr
|
|
|
Seddau wedi'u pweru
|
£3.50 yr awr |
|
|