MEITHRINFA DYDD FORGE FACH
Amdanom ni
- Adeiladwyd Meithrinfa Dydd Forge Fach yn bwrpasol
ac mae wedi'i chofrestru ar gyfer plant a babanod
rhwng 0 ac 8 mlwydd oed.
- Cynigwn wasanaeth gwych i rieni/gwarcheidwaid a
gofal safonol ac addysg i blant a babanod rhwng 0
ac 8 blwydd oed.
- Rydym wedi cofrestru gyda'r AGGCC ar gyfer 12 babi/plentyn
0-2 oed a 12
plentyn 2-8 oed.
- Mae gennym gyfleusterau ac adnoddau gwych ac ar
ben hynny oll mae gennym dîm gwych o staff i
ofalu am eich anwyliaid bach.
- Cynigwn oriau agor ymarferol, dydd Llun i ddydd
Gwener, gan gynnig llefydd rhan amser/amser llawn
a sesiynau chwarae.
- Mae cynllun y Feithrinfa'n ddifyr, llachar a deniadol
i blant, gydag ardaloedd chwarae actif, bwyta, cysgu
ac amser tawel.
- Mae'r holl offer, dodrefn a chyfleusterau wedi'u
dylunio'n arbennig ar gyfer plant.
Gweithio Gyda'r Rhieni
Yn
Forge Fach, deallwn fod gadael eich plentyn mewn Meithrinfa
am y tro cyntaf yn gallu achosi straen a gofid i chi
ac i'ch plentyn ar adegau, felly, rydym yn ceisio gwneud
hyn mor hawdd â phosib.
Unwaith y mae'ch lle wedi'i neilltuo, ond cyn i'ch
plentyn ddechrau yn y Feithrinfa, cynigwn gyfle i chi
a'ch plentyn fynychu 'sesiynau ymgartrefu'. Mae'r profiad
yma'n amhrisiadwy a bydd yn ein galluogi ni i adeiladu
perthynas bwysig gyda chi.
Sicrheuwn eich bod yn cael cyfleoedd i siarad â
Gweithiwr Allweddol eich plentyn ac aelodau eraill o
staff y Feithrinfa. Mae cyfathrebu da rhwng y staff
a'r rhieni yn hollbwysig, oherwydd bydd yn ein galluogi
i ddarparu adroddiadau llawn ar gynnydd, anghenion a
datblygiad eich plentyn ac i ateb unrhyw gwestiynau
sydd gennych.
Cynhelir nosweithiau rhieni yn gyson, sy'n rhoi cyfle
i chi a Gweithiwr Allweddol eich plentyn drafod cynnydd,
anghenion a datblygiad eich plentyn. Cynhyrchir cylchlythyrau
misol ar gyfer y rhieni gan fanylu ar weithgareddau
a chynigion y Feithrinfa, gwybodaeth gyffredinol, newidiadau
mewn polisïau ac unrhyw wybodaeth arall y dylech
chi, fel rhiant, fod yn ymwybodol ohoni.
Ein System Gweithiwr Allweddol
Bydd Gweithiwr Allweddol yn cael ei benodi i'ch plentyn
i annog, cefnogi a datblygu ei sgiliau a sicrhau bod
anghenion unigol eich plentyn yn cael eu diwallu. Anogwn
rieni i adeiladu perthynas gyda'r holl staff sy'n gofalu
am eich plentyn er mwyn ceisio sicrhau bod wyneb cyfarwydd
i chi a'ch plentyn yno bob amser.
Diogelu ac Amddiffyn eich Plentyn
Cynllunnir pob dydd yn ofalus i sicrhau bod eich plentyn
yn derbyn y cyfleoedd dysgu gorau mewn amgylchedd diogel,
difyr a gofalgar gan sicrhau hefyd ein bod yn diwallu
anghenion cymdeithasol, corfforol ac emosiynol pob plentyn.
Sylweddola'r tîm yn y Feithrinfa bwysigrwydd
adeiladu perthynas o hyder ac ymddiriedaeth rhwng rhieni
a gwarchodwyr o'r diwrnod cyntaf un, er mwyn sicrhau
bod anghenion unigol y rhieni/gwarchodwyr yn cael eu
diwallu. Mae pob aelod o staff yn cael gwiriad y CRB
(Swyddfa Cofnodion Troseddol) a hyfforddiant Cymorth
Cyntaf Pediatrig a Hylendid Bwyd Sylfaenol, ac yn dilyn
ein safonau a'n gweithdrefnau.
Yn
amlwg mae amgylchedd diogel a saff yn bwysig iawn i
unrhyw riant/warchodwr sy'n gadael eu plentyn mewn Meithrinfa.
Oherwydd hyn mae gan ein Meithrinfa System Mynediad
diogel sy'n golygu na all unrhyw riant nac ymwelydd
fynd i mewn i'r Feithrinfa heb gael eu cyfarch gan aelod
o'r staff. Yn ogystal mae CCTV yn y Ganolfan drwyddi
draw.
Dim ond y sawl sydd â'r awdurdod i gasglu'ch
plentyn ac yn gwybod y cyfrinair yr ydych chi wedi'i
ddarparu iddynt ac i ni a gaiff fynediad i'r Feithrinfa
a chael casglu'ch plentyn. Bydd eich plentyn yn cael
ei fewngofnodi ar gofrestr yr ystafell bob tro bydd
yn mynychu'r Feithrinfa a'i allgofnodi pan gaiff ei
gasglu.
Mae Iechyd a Diogelwch yn rhan bwysig o fywyd y Feithrinfa
hefyd. Rydym yn sicrhau bod ein Meithrinfa'n darparu
amgylchedd diogel i bob plentyn, rhiant/gwarchodwr a
gweithiwr. Mae'r staff i gyd yn ymroddedig i sicrhau
bod pob gweithdrefn diogelwch yn cael eu dilyn yn drylwyr.
Bwyta'n Iach
Ym Meithrinfa Forge Fach, credwn y dylai prydau bwyd
fod yn amser cymdeithasol a hapus lle gellir datblygu
sgiliau a blasu bwyd!
Cynllunnir pob pryd bwyd yn ofalus i ddiwallu anghenion
a gofynion pob plentyn ac i fod yn faethlon a blasus.
Mae llaeth, dwr neu sudd gwanedig ar gael drwy gydol
y dydd.
Os oes gennych unrhyw ofynion penodol neu unrhyw ofynion
diet arbennig, dywedwch wrth Reolwr y Feithrinfa a byddwn
yn darparu ar gyfer eich plentyn yn unigol.
Materion Addysg
Bydd cyfnod eich plentyn yn y Feithrinfa yn cael ei
gynllunio'n ofalus a phob gweithgaredd yn cael ei baratoi'n
addas ar gyfer pob grwp oedran.
Yn Forge Fach rydym yn dilyn rhaglenni addysg Fframwaith
a Chyfnod Sylfaenol 'Geni i Dair Oed' i sicrhau bod
y plentyn yn cael y dechrau gorau posib i'w addysg mewn
amgylchedd cyffrous a chefnogol.
Mae
Geni i Dair Oed yn cydnabod fod angen datblygu a dysgu
drwy ryngweithio â phobl ac archwilio'r byd o'u
cwmpas ar bob plentyn 0-3 oed. Rhennir Geni i Dair Oed
yn bedair 'Elfen' sy'n canolbwyntio ar sgiliau a chymhwysedd
babanod a phlant ifanc ac yn amlygu'r gydberthynas rhwng
twf, dysgu, datblygu a'r amgylchedd ble maent yn derbyn
gofal ac addysg.
Mae'r pedair agwedd yma wedi'u rhannu'n gydrannau sy'n
AGWEDDAU ac ELFENNAU.
Mae'r Cyfnod Sylfaenol ar gyfer plant 3-5 oed. Mae'n
gosod chwe maes dysgu:
- Datblygiad Personol, Emosiynol a Chymdeithasol
- Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Datblygiad Mathemategol
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd
- Datblygiad Corfforol
- Datblygiad Creadigol
Mae pob aelod o'r staff yn cynnal gweithgareddau wedi'u
cynllunio i geisio diwallu anghenion pob plentyn gyda
chymorth cynllunio ar sail arsylwadau.
|
Plentyn Cryf
|
Fi Fy Hun
|
Cael Cydnabyddiaeth a Chefnogaeth
|
Datblygu Hunanhyder
|
Ymdeimlad o Berthyn
|
|
Cyfathrebwr Medrus
|
Bod Gyda’n Gilydd
|
Canfod Llais
|
Gwrando ac Ymateb
|
Cyfleu Ystyr
|
|
Dysgwr Cymwys
|
Ffurfio Cysylltiadau
|
Defnyddio’r Dychymyg
|
Bod yn Greadigol
|
Cynrychioli
|
|
Plentyn Iach
|
Lles Emosiynol
|
Tyfu a Datblygu
|
Cadw’n Ddiogel
|
Dewisiadau Iach
|
Beth I'w Wneud Nawr
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach neu os hoffech
drefnu i gael golwg ar y Feithrinfa, cysylltwch â
ni ar 01792 849071, www.forgefachdaynursery.co.uk
neu ysgrifennwch at:
Meithrinfa Dydd Forge Fach
Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge Fach
Heol Hebron
Clydach
Abertawe
SA6 5EJ
|