Prosiectau
1. Parc Chwarae'r Plant
Ar hyn o bryd rydym yn ceisio dod o hyd i gyllideb er
mwyn i ni adeiladu Parc Chwarae i'r Plant ar dir y Ganolfan.
Rydym wedi derbyn amcangyfrifon pris gan nifer o gontractwyr
sy'n arbenigo mewn offer chwarae plant. Os bydd ein
cais yn llwyddiannus, gobeithiwn y bydd y gwaith ar
ein Parc Chwarae yn dechrau yn y gwanwyn hwyr neu'r
haf.

Cliciwch ar y llun i weld
fersiwn mwy
2. Llwybrau Treftadaeth
Clydach
Pa mor dda ydych chi'n adnabod Clydach? Faint ydych
chi'n ei wybod am orffennol diwydiannol cyfoethog yr
ardal?
O ganlyniad i rodd o £5,000
gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, bydd Llwybr Treftadaeth
newydd i Glydach yn cael ei lansio yn hwyrach yn y flwyddyn.
Trwy gydweithrediad rhwng Dinas a Sir Abertawe a Chymdeithas
Hanesyddol Clydach, bydd dau lwybr yn eich galluogi
i ddarganfod gorffennol diwydiannol cyfoethog Clydach.
Ewch ar grwydr ar hyd Afon
Clydach, darganfyddwch safle'r Hen Felin Wlân,
gwelwch ble bedyddiwyd y dewrion yn yr afon ei hun,
a llawer mwy, neu beth am olrhain hanes y pentref trwy
ddefnyddio Llwybr Canol y Dref!
Hen Garreg Filltir y Porthmyn
"6 milltir i Gastell-nedd".

Ond ble mae hi?
Dewch yn ôl am y wybodaeth
ddiweddaraf
|