EIN TENANTIAID
Yn ogystal â'n Meithrinfa a'n Caffi, mae Forge
Fach yn awr yn ganolfan i denantiaid eraill, sy'n cynnwys
Ymddiriedolaeth Ddatblygu Cwmni Clydach a'r Gymdeithas
Trafnidiaeth Gymunedol.
Ymddiriedolaeth Ddatblygu Cwmni Clydach
Wedi chwe blynedd o breswylio'n INCO, a roddodd gefnogaeth
allweddol er mwyn gwireddu'r syniad o sefydlu Forge
Fach , yn ogystal â llwyddiannau eraill yr Ymddiriedolaeth
yng Nghlydach, mae swyddogion yr Ymddiriedolaeth yn
awr wedi symud i'w swyddfeydd newydd deniadol yn y ganolfan.
Am wybodaeth bellach am yr Ymddiriedolaeth a sut gallwch
gymryd rhan a rhoi cymorth i ffurfio dyfodol Clydach
ewch i'w gwefan; www.clydachtrust.org.uk
Cymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol
Mae CTC yn elusen genedlaethol sy'n tyfu'n gyflym,
yn rhoi llais ac yn darparu arweinyddiaeth, dysg a chefnogaeth
menter i amrywiaeth o sefydliadau gan gynnig dulliau
trafnidiaeth arloesol a hyblyg er mwyn cyflawni newid
cymdeithasol yn eu cymunedau. Mae'r rhain yn cynnwys
elusennau, grwpiau gwirfoddol neu gymunedol, mentrau
cymdeithasol, colegau ac awdurdodau lleol.
Sefydliad i aelodau yw'r CTC sy'n cynnig amrywiaeth
o wasanaethau cefnogi uniongyrchol i'w aelodau ac fe'i
hadnabyddir gan lywodraeth y DU a'r llywodraethau wedi'u
datganoli fel "llais trafnidiaeth wirfoddol a chymunedol".
Hyrwydda'r CTC ragoriaeth drwy gyngor a chefnogaeth,
hyfforddiant, cyhoeddiadau, digwyddiadau a fforymau
rhanbarthol ar drafnidiaeth wirfoddol, gymunedol a hygyrch.
Darpara hefyd wasanaeth ymgynghori masnachol.
Mae strwythur y yn ddatganoledig, a chanddi dimau gwlad
ar draws y DU. Mae prif swyddfa tîm CTC Cymru/Wales
wedi'i lleoli yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Forge
Fach (08707 743593), a thîm Gogledd Cymru wedi'i
leoli ar y cyd â CGGC yn Neuadd y Morfa, Rhyl
(08707 708993).
Am wybodaeth bellach ewch i'n gwefan: www.ctauk.org
|